Dreigiau Cymru
Dathlwch ymgyrch Cymru yn EURO 2020 UEFA drwy gymryd hunlun a’i rannu ar sianeli cymdeithasol trwy ddefnyddio’r hashnod #DreigiauCymru.
Gallwch hefyd sganio'r côd QR ar y Dreigiau er mwyn casglu pob sticer yn eich llyfr digidol personol ar TogetherStronger.Cymru. Sawl sticer ddigidol allwch chi gasglu drwy ymweld â safleoedd Cadw ledled Cymru?
Hanes y castell
Yn ddi-os, mae Cricieth yn gastell i hoelio’r dychymyg. Mae’n coroni ei bentir creigiog ei hun rhwng dau draeth, ac yn edrych dros nifer o olygfeydd rhyfeddol ar draws y dref ac ar hyd cwmpas eang Bae Ceredigion.
Does dim rhyfedd bod Turner wedi teimlo ysgogiad i'w baentio. Erbyn hynny roedd y castell yn adfail pictiwrésg – wedi’i ddinistrio gan un o dywysogion mwyaf grymus Cymru’r Canol Oesoedd, Owain Glyndŵr.
Ond roedd wedi’i adeiladu gan ddau o'i ragflaenwyr, gwŷr mawr eu bri. Yn gyntaf, crëwyd y porthdy enfawr, gyda thyrau cerrig siâp D ar y naill ochr a'r llall iddo, gan Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr). Yna ychwanegodd ei ŵyr, Llywelyn ap Gruffudd - neu Llywelyn Ein Llyw Olaf - y ward allanol, y llenfuriau a dau dŵr newydd.
Serch hynny, doedd oedd y gaer greigiog hon ddim yn ddigon i wrthsefyll ymosodiad gan Edward I. Gwnaethpwyd ychydig welliannau gan frenin Lloegr ei hun pan osodwyd peiriant taflu cerrig ar y tŵr gogleddol er mwyn atal ymosodiadau o du’r Cymry.
Roedd y castell yn dal yn nwylo Lloegr yn 1404 pan losgwyd y tyrau’n rhuddion gan Owain Glyndŵr. Heb garsiwn i'w ddiogelu, daeth y dref yn un gyfan gwbl Gymreig unwaith eto.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now