Dreigiau Cymru
Dathlwch ymgyrch Cymru yn EURO 2020 UEFA drwy gymryd hunlun a’i rannu ar sianeli cymdeithasol trwy ddefnyddio’r hashnod #DreigiauCymru.
Gallwch hefyd sganio'r côd QR ar y Dreigiau er mwyn casglu pob sticer yn eich llyfr digidol personol ar TogetherStronger.Cymru. Sawl sticer ddigidol allwch chi gasglu drwy ymweld â safleoedd Cadw ledled Cymru?
Hanes y castell
Newidiodd Blaenafon y byd. Roedd cyfoeth o lo, calchfaen a mwyn haearn – tanwydd y Chwyldro Diwydiannol –yn y bryniau hyn ar gyrion Bannau Brycheiniog.
O’r fan hon, byddai Cymru’n hyrddio a bytheirio ac yn ei chwythu ei hun ar y llwyfan byd-eang. Haearn o Gymru roddodd fod i injans, offer a pheiriannau arloesol. Cododd bontydd, llongau a rheilffyrdd. Yn fyr, lluniodd y byd modern.
Yn 1789 aeth Gwaith Haearn Blaenafon ati am y tro cyntaf i harneisio pŵer stêm i chwythu aer i'w ffwrneisi chwyth enfawr. Ganrif yn ddiweddarach, yn y fan hon y trawsnewidiodd Sidney Gilchrist Thomas ddiwydiant dur y byd trwy ddyfeisio ffordd i dynnu ffosfforws o fwyn haearn.
Mae'r ffwrneisi adfeiliedig i'w gweld hyd heddiw gerllaw olion trawiadol y ffowndri, y tŷ cast a'r tŵr cydbwyso dŵr a godai wagenni i'r awyr i uchder o 80 troedfedd.
Roedd Blaenafon yn cael ei redeg gan ddiwydianwyr mawr, didostur yn aml. Ond byddai’r lle wedi bod yn werth dim heb ei weithwyr. Ewch i archwilio’u bythynnod a ddodrefnwyd yn ddilys a ‘siop y gwaith’ sydd wedi’i ail-greu lle’r oedden nhw’n gwario’u cyflogau prin.
Mae eu stori, sy’n cael ei hadrodd trwy gyfrwng dehongliad arloesol, wrth wraidd tirwedd ddiwydiannol sydd mor gwbl unigryw fel ei bod wedi ennill statws Safle Treftadaeth y Byd.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now