Welcome to

Castell Coch

Castell coch.svg Rubin Colwill

Castell Coch

Rubin Colwill

Artboard Rubin Colwill

Rubin Colwill

Position Midfielder
Number 26
Date of Birth APR 27 2002
First Game
Height 6'3
Club Cardiff City
Caps 1
Goals 0

Dreigiau Cymru

Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi ymuno â Cadw i gynrychioli'r 26 chwaraewr yng ngharfan EURO 2020 uefa Cymru yn safleoedd hanesyddol ar draws y wlad.

Dathlwch ymgyrch Cymru yn EURO 2020 UEFA drwy gymryd hunlun a’i rannu ar sianeli cymdeithasol trwy ddefnyddio’r hashnod #DreigiauCymru.

Gallwch hefyd sganio'r côd QR ar y Dreigiau er mwyn casglu pob sticer yn eich llyfr digidol personol ar TogetherStronger.Cymru. Sawl sticer ddigidol allwch chi gasglu drwy ymweld â safleoedd Cadw ledled Cymru?

faw-logo.png  line.svg   cadw-logo.svg

monolith-tall.png

Hanes y castell

Castell tylwyth teg - tegan i’r cefnog a’r pwerus

Photo of the outside of Castle Coch

Beth sy’n digwydd pan fydd noddwr o gyfoeth diderfyn yn cwrdd â phensaer â dychymyg di-ben-draw? Dyma eich ateb.

Cwyd Castell Coch o goedwigoedd ffawydd hynafol Fforest Fawr fel gweledigaeth o stori dylwyth teg. Ond eto i gyd, dim ond awgrymu’r ysblander y tu mewn y mae’r tyrau mawrion hyn gyda’u toeau conigol unigryw.

A thrydydd Ardalydd Bute wedi rhoi tragwyddol heol i’w ddychymyg, ni ymatalodd y pensaer William Burges o gwbl. Mae’r tu mewn tra addurnedig a dodrefn drudfawr Castell Coch yn ei wneud yn gampwaith disglair o’r oes Fictoraidd Uchel.

A room inside Castell Coch

Ond nid ffoli egsotig mohono. O dan yr addurniadau ffug-ganoloesol, gallwch olrhain  castell trawiadol o’r 13eg ganrif o hyd, a ddefnyddid ar un adeg fel llety hela gan un o Arglwyddi didostur y Mers, Gilbert de Clare.

Mae Castell Coch yn degan i’r cefnog a’r pwerus ers dros 700 mlynedd. Wedi gwario arian mawr arno, ni threuliodd Gilbert de Clare nac Ardalydd Bute lawer o amser yma.

Serch hynny, mae’n weledigaeth wych o fyd canoloesol dychmygus – a’r cyhoedd yn ei ddewis yn rheolaidd yn hoff adeilad iddynt yng Nghymru.  

Gweld lleoliad

Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×