Dreigiau Cymru
Dathlwch ymgyrch Cymru yn EURO 2020 UEFA drwy gymryd hunlun a’i rannu ar sianeli cymdeithasol trwy ddefnyddio’r hashnod #DreigiauCymru.
Gallwch hefyd sganio'r côd QR ar y Dreigiau er mwyn casglu pob sticer yn eich llyfr digidol personol ar TogetherStronger.Cymru. Sawl sticer ddigidol allwch chi gasglu drwy ymweld â safleoedd Cadw ledled Cymru?
Hanes y castell
Dyma gawres o gaer ar lannau Afon Seiont sydd wedi’i grwpio gyda chestyll eraill Edward I yng Nghonwy, Biwmares a Harlech i ffurfio Safle Treftadaeth y Byd. Ond ar sail ei faint anhygoel a’i bensaernïaeth ddramatig, mae Caernarfon yn sefyll ar ei ben ei hun.
Yma, aeth Edward a’i bensaer milwrol, Meistr James o St George ati i adeiladu castell, muriau tref a chei tua’r un pryd. Cymerodd y prosiect adeiladu enfawr hwn 47 o flynyddoedd, a chostiodd y cyfan £25,000, cryn ffortiwn ar y pryd.
Adeiladwyd y castell yn sgil y rhyfel chwerw gyda thywysogion Cymru. Felly roedd rhaid i’r waliau trwchus a Phorth y Brenin allu gwrthsefyll unrhyw ymosodiad. Ond roedd y tyrau polygon, yr eryrod cerrig a’r cerrig amryliw yn cyfleu neges fwy cynnil.
Roeddynt yn adleisio pensaernïaeth Rufeinig imperialaidd, ac yn enwedig muriau Constantinople. Roeddynt hefyd yn adleisio chwedl Macsen Wledig, a’i freuddwyd am gaer ysblennydd wrth aber afon — ‘y gaer odidocaf a welodd dyn erioed’.
Felly mae Caernarfon yn gastell o freuddwydion. Yn chwedl a ddaeth yn fyw. Ar ôl 700 mlynedd, mae’n dal i gyffroi’r dychymyg yn ei ffordd unigryw ei hun.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now